7 Oct 2019

Continued Success for the Welsh Breeds at HOYS 2019

The final three days of HOYS brought even more success for the Welsh Breeds.
The culmination of the in-hand exhibitor’s season is the Cuddy final. Qualifying is a huge feat in itself. Sue Kernan and Aimee Stunt’s three year old Section A colt Betws Onid, bred by Gwyn Berry, took ninth spot shown by Tom Clark. The Wilson family achieved an unique double qualifying two Section B’s, their homebred Walseker Colorado and his sire Paddock Rio, bred by Bernard and Maureen Butterworth, both produced by Team Tibbey. Paddock Rio finishing in sixth, was the highest of the Welsh breed contenders.

In a hotly contested Lead Rein of Hunter type Championship the Welsh Section A Mardruid Caradog, bred by Lesley Garner, took the title ridden by Oscar Elcock for Cheryl Elcock.

The ridden show pony classes are always most glamorous and the delightful model Welsh Part bred Rotherwood Rainmaker bred by Elizabeth Mansfield -Parnell took the 128cm title for the Till family ridden by India Till.

The smallest of the show hunter pony classes – the 122cm height division was dominated by Welsh ponies. The first four were all Section B’s. Taking the title was Gryngallt Page Too bred by Lesley Hillard, ridden by Harry Edwards-Brady and owned by mother Emma Edwards-Brady.

A relatively recent addition at HOYS is the section for the Junior Mountain and Moorland Championship, bringing the competitions for young riders to a close after a hectic week. Welsh ponies took both classes. The small breeds section was won by Annabel Drake riding the Cadlanvalley bred Section B, Cadlanvalley Allegro owned by Sarah Drake. However it was Janet Cox’s Section C, Rivervalley Flash Jack ridden by Amy Tate who stood as Champion after winning the large breeds class pleasing his breeder Jacky Cooper.

The Society would like to congratulate all exhibitors who took part at HOYS and hope that it has inspired members by illustrating what successes our ponies, cobs and part-breds can achieve. Over the next few weeks we hope to portray some of these individual stories.

ENDS

RHAGOR O LWYDDIANT I’R BRIDIAU CYMREIG YN HOYS 2019

Wrth i’r wythnos ddirwyn i ben cafodd y bridiau Cymreig rhagor o lwyddiant yn HOYS. Pen llanw y tymor cystadlu mewn llaw yw ffeinal y Cuddy. Mae cymhwyso ar gyfer y rownd derfynol yn gamp yn ei hun. Yn y nawfed safle eleni roedd Betws Onid – ebol ‘A’ teirmlwydd, fagwyd gan Gwyn Berry o eiddo Sue Kernan ag Aimee Stunt. Tom Clark oedd yn tywys. Llwyddodd teulu’r Wilsons i gael dau adran ‘B’ i’r ffeinal a rheiny yn dad a mab – Walseker Colorado a fagwyd ganddynt; a’r march Paddock Rio, fagwyd gan Bernard a Maureen Butterworth. Paratowyd y ddau gan dîm Tibbey. Paddock Rio oedd y mwya llwyddianus o’r bridiau Cymreig yn cymryd y chweched safle.

Ynghanol cystadleuaeth glos ar gyfer Merlyn ar linyn o deip Merlyn Hela – Mardruid Caradog, merlyn adran ‘A’ fagwyd gan Lesley Garner oedd yn fuddugol, wedi ei farchogaeth gan Oscar Elcock i’r perchennog Cheryl Elcock.

Rhai o ddosbarthiadau mwya hudolus y sioe yw’r rhai i ferlod addas i blant dan gyfrwy, a’r model o rhan-frid, Rotherwood Rainmaker aeth a hi yn y dosbarth 128cm. Wedi ei fagu gan Elizabeth Mansfield-Parnell, India Till oedd yn marchogaeth ar rhan y teulu Till. Yn y dosbarth lleiaf un o Adran y Merlod o deip Hela , yr 122cm, merlod Cymreig aeth â’r pedwar safle cyntaf a rheiny i gyd yn ferlod adran ‘B’. Enillydd y teitl oedd Gryngallt Page Too o eiddo Emma Edwards-Brady â’i mab Harry yn marchogaeth. Lesley Hillard o ardal Caerfyrddin bridiodd Page Too.

Ychwanegiad cymharol diweddar i’r sioe yw’r Adran i’r Merlod Mynydd a Gweundir wedi eu marchogaeth gan ‘Juniors’. Gyda’r gystadleuaeth yma’n dod â’r wythnos hectig i ben, enillwyd y ddau dosbarth gan ferlod Cymreig. Yn yr adran i’r rhai llai, Cadlanvalley Allegro, merlyn adran ‘B’, fagwyd gan y fridfa ger Llandudoch aeth â hi. Annabel Drake oedd yn marchogaeth yr adfarch i’w mam Sarah Drake. Ond o’r dosbarth i’r rhai mwy ddoth y pencampwr, Rivervalley Flash Jack, wedi ei farchogaeth gan Amy Tate i’w berchennog Janet Cox. Magwyd yr adfarch adran ‘C’ gan Jacky Cooper.

Dymuna’r gymdeithas longyfarch yr holl gystadleuwyr yn HOYS eleni, gan obeithio bydd hyn yn ysbrydoli aelodau wrth amlygu y llwyddiannau sy’n bosib i’n merlod, cobiau a’r rhan-fridoedd. Dros yr wythnosau i ddod rydym yn gobeithio adrodd rhai o’r straeon unigol yma.

ENDS

Recent News Stories

14 Mar 2024

Clipping of Equines

Following some issues around the clipping of equines during the 2023...

Read Article
12 Feb 2024

Society Medal Review

Following the Implementation of the Society Medal Review in 2023 for...

Read Article
26 Jan 2024

Keith Spenser – Felinmor

It is with much regret that the Society was saddened to hear of the sudden death of James Keith Spenser of the Felinmor Stud.  Keith had been involved...

Read Article